P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Geiriad y ddeiseb
Oherwydd y lefel gynyddol o draffig, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, ar yr A40 ac oherwydd y ddarpariaeth annigonol o balmentydd a chroesfannau cerddwyr diogel, a gydnabyddir gan yr Asiantaeth Cefnffyrdd drwy ymchwil a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella diogelwch ar y ffordd ym mhentre Llanddewi Felffre, Arberth, Sir Benfro, drwy roi’r mesurau a ganlyn ar waith, a hynny ar fyrder:
1. Gwella’r palmant annigonol ar hyd ochr ddeheuol yr A40 rhwng Llandaff Row a phen dwyreiniol y pentref i sicrhau ei fod yn boddhau safonau diogelwch presennol, a’i fod yn ddigon llydan i gael ei ddefnyddio’n ddiogel gan gerddwyr, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn gan roi ystyriaeth i’r ffaith bod cerbydau nwyddau trwm yn gyrru heibio’n agos ac yn aml ac yn gyrru'n gyflymach na’r terfyn cyflymder presennol o 40 mya.
2. Gosod camerâu cyflymdra yn nwyrain ac yng ngorllewin y pentref.
3. Defnyddio system drydanol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer arwyddion i groesi’r ffordd er mwyn darparu goleuadau rhybudd sy’n fflachio ar adegau pan fydd plant yn croesi’r A40 i ddal eu bws ysgol.
4. Gosod mesurau i ostegu traffig bob ochr i’r pentref ac ar gyffyrdd i bwysleisio’r angen i arafu.
5. Gostwng y terfyn cyflymder i 30mya.
Cynigwyd gan: Cyngor Cymuned Llanddewi Felffre
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Medi 2009
Nifer y llofnodion: 154